Ymateb i Ymchwiliad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Cyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau

 

Cyflwyniad

 

‘Mae celfyddyd yn rhan o’r diwylliant, ond nid yw wedi’i alinio â rhesymeg economeg gyfoes; a dyma’r broblem. Hyd nes y byddwn ni, fel cymdeithas, yn dod o hyd i ffordd o ailddiffinio cysyniad y berthynas rhwng celfyddyd a chymdeithas, ac egluro gwir gost creu gwaith creadigol, ni fydd y broblem hon yn diflannu.’ Gweithiwr proffesiynol ym maes y celfyddydau

Beth yw diwylliant, sut byddwn yn ei ddiffinio? Mae Brian Eno yn cynnig un diffiniad yn ei lyfr A Year With Swollen Appendices: ‘Diwylliant yw popeth nad oes arnom angen ei wneud. Mae’n rhaid i ni fwyta, ond does dim angen mathau arbennig o cuisine arnom, nac ychwaith big Mac na Tournados Rossini. Mae’n rhaid i ni ourchuddio’n cyrff rhag y tywydd, ond does dim angen i ni boeni ai Levis neu Yves Saint-Laurent y dylem eu gwisgo. Rhaid i ni symud ar draws wyneb y ddaear, ond does dim angen i ni ddawnsio. Dyma’r pethau rydym yn dewis eu gwneud’.

Y casgliad rhesymegol yw y gallen ni oroesi os ‘dewiswn’ ni i beidio â gwneud y pethau hyn. Felly, dewis yw cefnogi diwylliant bob tro, ond hebddo fe fyddai bywyd yn ddifater ac yn ddiflas iawn, heb fyfyrdod, na thrafodaeth nac adloniant, ac felly sut byddai rhywun yn newid, yn addasu ac yn dysgu?

Yn draddodiadol, mae’r Byd Creadigol wedi ei rannu rhwng celfyddyd er mwyn celfyddyd, ac adloniant poblogaidd a masnachol: yn yr 20 mlynedd ddiwethaf, rydym wedi gweld twf ‘y drydedd ffordd’; Celfyddydau dros Gymdeithas neu Newid Cymdeithasol. Gweithgareddau celfyddydol sy’n arwain at newid cymdeithasol, cydlyniant cymunedol, adfywio cymdeithasol (a chorfforol), codi dyheadau ymhlith ein pobl ifanc, paratoi pobl â sgiliau mewn byd lle bydd llawer o swyddi, fel y gwyddom bellach, yn cael eu gwneud gan robotiaid, felly mae angen i ni ddatblygu sgiliau eraill fel adeiladu tîm, datrys problemau a mesur llwyddiant. Mae’r modd yr ydym yn mesur effaith a chyfraniad y celfyddydau a diwylliant yn y meysydd hyn yn dod yn fwy fwy pwysig ac ni ellir anwybyddu hyn mewn trafodaethau ynghylch o ble y daw’r cyllid.

 

Strategaeth integredig

 

Dylai ymdrechion i gynyddu ffynonellau cyllid heblaw cyllid cyhoeddus i’r celfyddydau yng Nghymru ddechrau gyda strategaeth integredig, a fydd yn cynnwys targedau ar gyfer:

 

o    incwm a enillir;

o    dyngarwch;

o    buddsoddiad.

 

A hefyd ar gyfer

o    effeithiau mesuradwy y tu hwnt i’r economaidd: cymdeithasol, addysg, adfywio ac ati

 

 

Gallai strategaeth ryngwladol integredig anelu at:

 

1.    Llywio ein dyfodol ar lwyfan byd-eang, ac alinio twristiaeth, masnach a mewnfuddsoddi er mwyn helpu i ddatblygu uchelgais ryngwladol ein sectorau diwylliannol.

 

2.    Defnyddio’r celfyddydau ac addysg i helpu tuag at gronni ewyllys da rhyngwladol tuag at Gymru, dyma sylfaen ein cyfalaf ‘tawel’.

 

3.    Dysgu oddi wrth y sectorau addysg uwch ac addysg a hyfforddiant galwedigaethol sydd â chysylltiadau rhyngwladol cryf. Ar hyn o bryd mae cydweithio ym maes ymchwil a phartneriaethau strategol yn cysylltu ein sefydliadau ni â’r goreuon yn eu maes.

 

4.    Caniatáu i’n hartistiaid a chwmnïau fod yn llais rhyngwladol i Gymru. O Opera Genedlaethol Cymru yn arwain blwyddyn o gydweithio creadigol yn Dubai, i’r sgyrsiau artistig bywiog a gefnogir drwy gyfrwng rhaglen India-Cymru – mae’r celfyddydau yn helpu i greu darlun rhyngwladol o Gymru fel cenedl fodern, greadigol sy’n edrych allan ar y byd.

 

5.    Gwneud mwy i sicrhau y caiff yr asedau sylweddol hyn eu cydnabod, eu meithrin a’u defnyddio’n strategol fel y gall Cymru elwa gymaint yn fwy o ran dylanwad a buddsoddiad rhyngwladol.

                

6.    Ystyried sefydlu llwyfan diwylliannol, rhyngwladol, proffil uchel yng Nghymru – diwydiant sy’n canolbwyntio ar ŵyl gelfyddydol flynyddol, neu bob dwy flynedd, neu arddangosfa addysg, fel y gwelir yn yr Alban er enghraifft. Gallai hyn werthu Cymru i’r byd a dylid rhoi blaenoriaeth iddynt dros ddigwyddiadau untro.

 

7.    Mae Cymru Fyd-eang sy’n dod â phartneriaid ynghyd o addysg uwch, twristiaeth, masnach a mewnfuddsoddi, er mwyn hyrwyddo prifysgolion Cymru i farchnadoedd tramor, yn fodel o waith ymgysylltu rhyngwladol integredig yng Nghymru y gellid ei ymestyn neu ei efelychu gan sector diwylliannol Cymru.

 

 

 

Cyflwyniad i waith y British Council yng Nghymru

 

Mae’r British Council yn bodoli i hyrwyddo ‘gwybodaeth a dealltwriaeth gyfeillgar’ rhwng pobl gwledydd Prydain a thu hwnt drwy wneud cyfraniad cadarnhaol i’r gwledydd y byddwn yn gweithio â nhw, ac wrth wneud hyn, sicrhau gwahaniaeth parhaol i ddiogelwch, ffyniant a dylanwad y DU.

 

Rydym yn gweithio mewn mwy na 100 o wledydd, gan gysylltu miliynau o bobl â gwledydd Prydain drwy raglenni a gwasanaethau yn Saesneg, y Celfyddydau, Addysg a Chymdeithas. Rydym o’r farn bod y dulliau hyn yn ddulliau effeithiol o ymgysylltu ag eraill ac rydym wedi bod yn cyflawni’r gwaith hwn ers 1934.

 

Sefydlwyd British Council Cymru  yng Nghaerdydd yn 1944, ac mae’n rhan o’n gweithrediadau yn y DU ar draws pum swyddfa British Council. Ers 2014, mae ein presenoldeb yng Nghymru wedi ehangu’n sylweddol yn dilyn y penderfyniad i leoli rhaglen Erasmus+ yng Nghaerdydd. Bellach, mae gennym 95 aelod o staff yn darparu ystod eang o wasanaethau rheng flaen a swyddfa ar ran Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.

 

Mae’r tîm sy’n canolbwyntio ar Gymru yn cynnwys wyth aelod o staff oddi mewn i dîm ehangach y DU o 35. Rydym yn canolbwyntio ar addysg a’r celfyddydau, gan weithio’n agos â phartneriaid yng Nghymru ac ar draws rwydwaith rhyngwladol y British Council.

 

 

1. Ein hymagwedd strategol yn y DU

 

Mae’r British Council yn ymrwymedig i gynrychioli ac ymgysylltu â holl wledydd y DU

fel rhan o’i genhadaeth ddiwylliannol eang, ac adlewyrchir hyn yn ein presenoldeb hirhoedlog a’n dylanwad cynyddol yng Nghymru.

 

Rydym yn gweithio i greu Cymru ysbrydoledig â chysylltiadau rhyngwladol drwy wireddu ein strategaeth yn y DU. Pum nod sydd i’r strategaeth honno:

 

1.    Cynrychioli a gwasanaethu pob rhan o’r DU a buddiannau penodol Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban

2.    Creu cyswllt â dinasoedd a rhanbarthau dinesig y DU

3.    Meithrin ymddiriedaeth rhwng y DU a gweddill y byd, drwy gyfnewid a meithrin perthynas hirdymor

4.    Hyrwyddo rhyngwladoldeb yn y DU, gan sicrhau y caiff pob person ifanc brofiad rhyngddiwylliannol a rhyngwladol

5.    Helpu i wella dealltwriaeth y byd o DU gyfoes, ddatganoledig

 

 

Rebecca Gould

Pennaeth y Celfyddydau

British Council Cymru

Tachwedd 2017